<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?>
<simpdoca>
<ver>system version 146
</ver>
<title>Arweiniad i Weithgareddau Hygyrch ym Mharciau Cenedlaethol Prydain</title>
<section>
<head>Am yr Arweiniad i Weithgareddau Hygyrch</head>
<p>Ein pymtheg Parc Cenedlaethol ydi tirweddau mwyaf gwerthfawr Prydain. Wedi'u gwarchod gan y gyfraith i genedlaethau i ddod gael eu mwynhau, maen nhw'n cynnig i'r ymwelydd rostiroedd grug ysgubol, glannau dramatig, dyfrffyrdd tangnefeddus a mynyddoedd sy'n ddigon â mynd â'ch gwynt chi. Felly pa un a ydych chi'n chwilio am wyliau i'r teulu i wylio'r bywyd gwyllt, tro bach ar bnawn Sul o gwmpas pentre yn y wlad neu ddim ond lle ysbrydoledig i gael hwyl, hamdden a hedd – mae ein Parciau Cenedlaethol yma i'w gynnig i chi.</p>
<p>Mae'r Arweiniad yma'n rhoi ciplun o weithgareddau hygyrch yn y Parciau Cenedlaethol. Mae'n cynnwys pymtheg o weithgareddau hygyrch – un i bob Parc Cenedlaethol – ond mae yna lawer mwy i ddewis o'u plith ac i gael blas arnyn nhw. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys teithiau cerdded, mynd ar gefn beiciau wedi'u haddasu, mordwyo ar gychod solar a llawer mwy.</p>
<p>Mae'r Arweiniad yma ar gael mewn amryw wahanol fformatau gan gynnwys llafar a Quick xml. Gewch chi lawrlwytho'r rhain yn <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web> neu ofyn amdanyn nhw gan:</p>
<p>Gymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, 126 Stryd Bute, Caerdydd, <acronym>CF10</acronym> 5<acronym>LE</acronym>.</p>
<p>T: 029 2049 9966 E: <email>info@anpa.gov.uk</email></p>
<p>Rydym yn cynnig eich bod chi'n cysylltu â'r Parc Cenedlaethol rydych yn bwriadu mynd iddo ynghylch unrhyw fanylion penodol yn ymwneud â mynediad. Mae manylion cysylltu i'w cael yn yr arweiniad i weithgareddau isod.</p>
<p>I gael gwybod am weithgareddau hygyrch eraill sydd ar gael yn y Parciau Cenedlaethol, ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Gewch chi wybod mwy am y Llefydd i Enaid Gael Llonydd yng ngwefan y Parciau Cenedlaethol <web>www.nationalparks.gov.uk</web> Yma gewch chi gysylltau â gwefan pob Parc Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth: o restrau llety, mapiau, teithiau cerdded dan arweiniad, llefydd o ddiddordeb i'r wybodaeth fanwl am sut mae'r Parciau Cenedlaethol yn cael eu rheoli.</p>
<p>Bob blwyddyn mae mwy 126 miliwn o ddiwrnodiau ymwelwyr yn cael eu treulio yn ein Parciau Cenedlaethol. Mae'r Parciau Cenedlaethol hefyd yn gartre 300,000 o drigolion. Does dim rhaid i chi dalu i fynd i Barc Cenedlaethol – dim ond rhoi help llaw i ni ofalu amdanyn nhw. Rydym yn gofyn i ymwelwyr ein helpu ni i gadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardaloedd hyn drwy:</p>
<list>
<litem>gael hwyl yn hamddena ar yr un pryd â pharchu'r amgylchedd – pa un a ydych chi'n cerdded, ar gefn ceffyl, ar gefn beic neu'n defnyddio'r dyfrffyrdd;</litem>
<litem>gadael y Parc Cenedlaethol fel y'i cawsoch: mynd â'ch sbwriel adref, ymorol am beidio â tharfu ar anifeiliaid, gadael giatiau fel y cewch chi nhw;</litem>
<litem>dewis nwyddau a llety lleol i helpu cymunedau cefn gwlad ein Parciau Cenedlaethol i bara'n fyw a ffynnu;</litem>
<litem>defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lle bynnag y gallwch chi. Mae llawer o'r Parciau Cenedlaethol yn darparu bysus sy'n teithio yn y Parc Cenedlaethol.</litem>
</list>
</section>
<section>
<head>Arweiniad i Weithgareddau Hygyrch</head>
<subsect1>
<head>Parciau Cenedlaethol Cymru:</head>
<subsect2>
<head>1. Bannau Brycheiniog</head>
<p>Gweithgaredd: Taith Gerdded Cronfa Ddwr a Fforest Talybont</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Explorer Map <acronym>OL</acronym> 12/O13 neu Landranger Map 160/161 – <acronym>SO</acronym> 104 205</p>
<p>Am y gweithgaredd: Cronfa ddwr hardd 3 chilomedr o hyd yng nghôl bryniau serth, coedwigaeth a thir ffarmio. Mae yna ffordd yn croesi'r arglawdd 380 medr i droeon coedwigaeth yr ochr bellaf. Mae'r llwybrau llydain yn Fforest Talybont ar ochr ddwyreiniol y gronfa ddwr yn ymuno â Thramffordd Brinore a Llwybr Taf lle gallwch chi fynd am dro hirach heb rwystrau. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau coedwigaeth yn ymyl y gronfa ddwr yn wastad ond maen nhw'n mynd yn fwy serth po uchaf yr ewch chi i fyny'r bryn.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae cilfachau a meysydd parcio ar hyd y ffordd o Dalybont i Bontsticill yn cynnig golygfeydd da o'r gronfa ddwr a'r bryniau o gwmpas.</p>
<p>T: 01874 623366 (Canolfan Groeso'r Parc Cenedlaethol)</p>
<p>E: <email>visitor.centre@breconbeacons.org</email></p>
<p>Hygyrchedd: nam ar y clyw, print bras, nam ar y golwg.</p>
<p>Parcio hygyrch: Mae yna gilfachau a meysydd parcio ar hyd y ffordd o Dalybont i Bontsticill ac ar ochr arall yr arglawdd.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Mae tai bach cyhoeddus sylfaenol nesaf at y White Hart Inn yn Nhalybont-ar-Wysg. Mae'r tai bach agosaf â mynediad i bobol anabl yng nghilfach barcio Llansantffraid ar yr A40.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Mae'r gronfa ddwr 1.5 cilomedr i'r de o Dal-y-bont ar Wysg, sydd 8 cilomedr i'r dwyrain o Aberhonddu ar yr A40.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: amh</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae yna siop a Swyddfa Bost lle mae gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol a sawl tafarn Nhal-y-bont ar Wysg.</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu, Powys, <acronym>LD3</acronym> 7<acronym>HP</acronym>.</p>
<p>T: 01874 624437 E: <email>enquiries@breconbeacons.org</email> W: <web>www.breconbeacons.org</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>2. Arfordir Penfro</head>
<p>Gweithgaredd: Amroth – Taith Gerdded Colby Lodge</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Maes parcio Amroth, Arberth, Sir Benfro <acronym>SA67</acronym> 8<acronym>NQ</acronym>; cyf grid : <acronym>SN162070</acronym></p>
<p>Am y gweithgaredd: Taith gerdded hawdd, 1.7 milltir (2.8 cm) ar hyd llwybr o'r maes parcio ar hyd y glannau a thrwy ddyffryn coediog hardd. At ei gilydd ar lwybrau llydain, a llethrau i fyny ac i lawr. Mae wyneb y llwybr yn gallu amrywio ac mae sôn am unrhyw ddringfeydd mwy serth na 1:12 (8.3%) yn y cyfarwyddiadau ac maen nhw i'w gweld ar fap y daith.</p>
<p>Nodweddion eraill: Un o gyfres o 16 o deithiau cerdded hawdd a hyrwyddir ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac a gyhoeddir mewn arweinlyfr, <i>Walks For All</i>. Cafodd y teithiau eu dewis a'r arweinlyfr ei gasglu yn sgil ymgynghori'n drylwyr â Grwp Mynediad Penfro.</p>
<p>T: 0845 3457275 (Rheolwr Mynediad a Hawlffyrdd Cyhoeddus)</p>
<p>E: <email>recman@pembrokeshirecoast.org.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: ramp cadeiriau olwyn, tai bach Hygyrch, print bras.</p>
<p>Parcio hygyrch: Mae yna dair cilfach barcio unswydd i bobol anabl yn y maes parcio. Maen nhw yn ymyl y bompren, yn arwain at lan y môr.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Mae tai bach cyhoeddus ar lan y môr.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Maes parcio mawr a chilfachau parcio unswydd i bobol anabl.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: amh</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Gweler y map a'r cyfarwyddiadau amgaeëdig</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Awdurdod Parc Cenedlaethol, Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, <acronym>SA72</acronym> 6<acronym>DY</acronym>.</p>
<p>T: 0845 3457275E: <email>pcnp@pembrokeshirecoast.org.uk</email> W: <web>www.pembrokeshirecoast.org.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>3. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri</head>
<p>Gweithgaredd: Llwybr Mawddach</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Mae'r llwybr yn ymestyn am naw milltir rhwng Dolgellau (<acronym>SH</acronym> 725 175) a'r Bermo (<acronym>SH</acronym> 615 155) ac mae modd mynd ato mewn sawl man, gan gynnwys Morfa Mawddach a Phenmaen-pwl. Rydym yn argymell bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cychwyn y llwybr o faes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ger Pont y Wernddu (<acronym>SH</acronym> <acronym>SH</acronym> 715 183).</p>
<p>Am y gweithgaredd: Mae Llwybr Mawddach yn ne Parc Cenedlaethol Eryri ac fe'i hystyrir yn un o'r llwybrau gorau ym Mhrydain. Mae'n dilyn aber hardd Mawddach, gan roi cyfle i ymwelwyr brofi peth o ysblander, golygfeydd trawiadol a bywyd gwyllt hardd Eryri.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae yna sawl mainc a bwrdd picnic hygyrch a hyd y llwybr. Mae'r giatiau llydain yn hygyrch i gadeiriau olwyn, beiciau bach a choetsis cadair.</p>
<p>T: 01341 422888 (Canolfan Wybodaeth Dolgellau)</p>
<p>E: <email>tic.dolgellau@eryri-npa.gov.uk</email> (Canolfan Wybodaeth Dolgellau)</p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch, disgrifiad llafar, Braille, print bras, nam ar y golwg.</p>
<p>Parcio hygyrch: Mae yna un man gollwng ar y ffordd lle mae parcio hygyrch:</p>
<p>1. Penmaen-pwl (<acronym>SH</acronym> 695 185) - dwy gilfach barcio hygyrch ddynodedig.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Mae yna ddau fan gollwng posib ar y ffordd lle mae tai bach hygyrch:</p>
<p>1. Penmaen-pwl (<acronym>SH</acronym> 695 185)</p>
<p>2. Morfa Mawddach (<acronym>SH</acronym> 572 614)</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Oes gennych chi ddiddordeb mewn pysgota ar y Fawddach? Cysylltwch â Chymdeithas Bysgota Dolgellau ar 01341 422706</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, <acronym>LL48</acronym> 6<acronym>LF</acronym>.</p>
<p>T: 01766 770274 E: <email>parc@eryri-npa.gov.uk</email> W: <web>www.eryri-npa.gov.uk</web></p>
</subsect2></subsect1>
<subsect1>
<head>Parciau Cenedlaethol Lloegr:</head>
<subsect2>
<head>4. Broads</head>
<p>Gweithgaredd: Barton Broad Boardwalk a Ra Boat Trip</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Y prif faes parcio ydi man cychwyn y daith gerdded a'r mordeithiau (sy'n mynd o Gay's Staithe):</p>
<p>Long Road, Neatishead cyf grid <acronym>TG</acronym> 351208</p>
<p>Gay's Staithe, Neatishead cyf grid <acronym>TG</acronym> 350210</p>
<p>Maes parcio i ymwelwyr anabl ym mhen cychwyn y llwybr styllod:</p>
<p>Irstead Road, Neatishead cyf grid <acronym>TG</acronym> 359205</p>
<p>Am y gweithgaredd: Mae'r llwybr styllod yn arwain trwy goetir ffen corsiog llawn bywyd gwyllt ac yn dod allan i roi golygfa odidog dros Barton Broad. Bydd y cwch solar Ra yn mynd â chi ar daith dan arweiniad o Barton, y Broad mwyaf ond un, sy'n eiddo Norfolk Wildlife Trust.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae Barton Broad yn lle tan gamp i fywyd gwyllt ar dir neu ar y dwr, gan gynnwys y cyfle i weld dyfrgi, a chlywed neu hyd yn oed weld aderyn y bwn. Ymhlith adar eraill y gallech chi eu gweld mae glas y dorlan a boda'r wern ac mae yma hylltod o flodau gwyllt a gweision y neidr.</p>
<p>T: 01603 756097 or 01603 782281 (Hoveton Broads Information Centre)</p>
<p>E: <email>hovetontic@broads-authority.gov.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch, ram cadeiriau olwyn.</p>
<p>Parcio hygyrch: Dwy gilfach barcio benodol ym maes parcio Long Road i'r rheini sy'n mynd ar y fordaith. Tair cilfach barcio benodol ym maes parcio Irstead Road i'r rheini sy'n cychwyn y Barton Broad Boardwalk.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Dau ym maes parcio Long Road.</p>
<p>Mynediad i'r tir: At ei gilydd wynebau gwastad, caled.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: Dim adeiladau ar wahân i dai bach hygyrch.</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae'r llwybr styllod yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae yna orffwysfeydd, ymylon tapio ac arwyddion Braille ar y ffordd. Mae Ra yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ar ramp. Mae mordeithiau Ra ar fynd o'r Pasg tan fis Hydref. Rhowch ganiad i Hoveton Broads Information Centre (01603 756097 neu 01603 782281) i gadw lle. Mae pecyn mynediad i wneud y llwybr styllod yn fwy cydnaws i ymwelwyr a chanddyn nhw nam ar eu synhwyrau ar gael i'w fenthyg - cysylltwch ag Awdurdod Broads tel 01603 610734 neu e-bostio <email>broads@broads-authority.gov.uk</email></p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Broads Authority, Dragonfly House, 2 Gilders Way, Norwich, <acronym>NR3</acronym> 1<acronym>UB</acronym>.</p>
<p>T: 01603 610734 E: <email>broads@broads-authority.gov.uk</email> W: <web>www.broads-authority.gov.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>5. Dartmoor</head>
<p>Gweithgaredd: Teithiau Minibys Easy Going Dartmoor</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Fe'u cynigir o bedwar man o gwmpas y Parc: Newton Abbot, Ivybridge, Tavistock ac Okehampton</p>
<p>Am y gweithgaredd: Mae Teithiau Easy-Going Dartmoor yn cynnig i bobol mewn oed a phobol anabl o bob oed y cyfle i fwynhau diwrnod allan yn rhoi tro am fannau ar y rhos uchel hardd yng nghwmni un o dywyswyr y Parc Cenedlaethol.  Mae'r cerbydau i gyd yn gwbl hygyrch ac yn gymwys i gario cadeiriau olwyn.  Mae croeso i gynorthwywyr, gofalwyr neu deuluoedd ddod ar y daith hefyd.</p>
<p>Nodweddion eraill: Pa un a oes arnoch chi awydd mynd am dro bach braf drwy'r coed, cinio mewn tafarn neu ddim ond am forio yn y golygfeydd trawiadol, bydd ein tywyswyr yn rhannu â chi eu gwybodaeth a'u cariad tuag at yr ardal.</p>
<p>T: 01752 690444 (Ivybridge and District Community Transport Association)</p>
<p>01626 335775 (Newton Abbot Community Transport)</p>
<p>01837 55000 (Newton Abbot Community Transport)</p>
<p>01822 616958 (Tavistock and District Local Transport Partnership)</p>
<p>E: amh</p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch, ramp cadeiriau olwyn, nam ar y golwg.</p>
<p>Parcio hygyrch: amh</p>
<p>Tai bach hygyrch: Fel arfer mae gan y mannau ar y daith gyfleusterau hygyrch.</p>
<p>Mynediad i'r tir: amh</p>
<p>Mynediad i adeiladau: amh</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae Teithiau Minibys Easy-Going Dartmoor ar fynd bellach ers rhai blynyddoedd ac mae mynd mawr arnyn nhw, yn bobol leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bob blwyddyn mae dros dri chant o bobol yn mynd ar y Teithiau a da o beth ydi cadw lle'n fuan, yn enwedig i'r digwyddiadau â thema fel Myths and Legends a'r Nosweithiau Bwyd Lleol.</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Dartmoor National Park Authority, Parke, Bovey Tracey, Newton Abbot, Devon, <acronym>TQ13</acronym> 9<acronym>JQ</acronym>.</p>
<p>T: 01626 832093 E: <email>hq@dartmoor-npa.gov.uk</email> W: <web>www.dartmoor-npa.gov.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>6. Exmoor</head>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Wimbleball Lake Country Park, Nr Dulverton, Somerset <acronym>TA22</acronym> 9<acronym>NU</acronym></p>
<p>Am y gweithgaredd: Cyfle i bobol a chanddyn nhw amrywiaeth o fedrau brofi hwylio ar Wimbleball Lake sy'n 374 o erwau. Cychod diogel ar gael, does dim gofyn profiad, hwylio yng nghwmni rhywun profiadol nes y byddan nhw am fynd ar eu pennau'u hunain. Mae yna gychod addas i bobol heb fawr o nerth, deheurwydd a sadrwydd. Mae'r <acronym>RYA</acronym> Sailability (elusen) ar waith ddyddiau Mercher a Gwener yng Wimbleball Sailing Club. Codir tâl bychan sy'n ymorol am yswiriant ac aelodaeth diwrnod. Mae croeso i gynorthwyr a ffrindiau.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae'r cyfleusterau sydd newydd eu hailwampio ger y Llyn ym Mharc Cenedlaethol Exmoor yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ar y dwr ac ar dir. Mae caffi hygyrch i gadeiriau olwyn ar agor o fis Ebrill tan fis Hydref. Mae Wimbleball hefyd yn bennaf bysgodfa brithyll sy'n cynnig genweirio o'r glannau ac o gychod. Mae trwyddedau ar gael ar y safle a cheir cadw cychod ymlaen llaw. Mae'r llwybr o gwmpas y Llyn yn cynnwys darn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae yna hefyd guddfan gwylio adar hygyrch i gadeiriau olwyn ar y safle.</p>
<p>T: 01823 662505 (Jo Smith, Sailability)</p>
<p>01398 371460 (Wimbleball Lake office)</p>
<p>E: <email>wimbleball@swlakestrust.org.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch, ramp cadeiriau olwyn.</p>
<p>Parcio hygyrch: Chwe maes parcio i gyd yn addas i ymwelwyr anabl.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Tai bach a chawod hygyrch yn y clwb hwylio a'r ganolfan gweithgareddau.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Hygyrch i gadeiriau olwyn mewn rhai mannau.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: Mae'r clwb hwylio, y ganolfan gweithgareddau a'r guddfan gwylio adar yn hygyrch i gadeiriau olwyn.</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Y Crown Estate's Tall Trees Trail, llwybr pob gallu yn ymyl pentre canoloesol Dunster. Mae'r llwybr yn cynnwys ffynidwydden Douglas 60m (197 troedfedd) o daldra, y goeden dalaf yn Lloegr ac mae ganddo ddehongliad ar y safle. Caiff deiliaid bathodynnau glas barcio ar fan cychwyn y llwybr yn Nutcombe Bottom. Canolfan y Parc Cenedlaethol ac amwynderau gerllaw yn Dunster.</p>
<p>Hefyd, yn union ar ymyl y Parc Cenedlaethol mae The Calvert Trust – cyfleuster i roi lle i bobol anabl fwynhau gweithgareddau awyr agored. Ewch i: <web>www.calvert-trust.org.uk</web></p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Exmoor National Park Authority, Exmoor House, Dulverton, Somerset, <acronym>TA22</acronym> 9<acronym>HL</acronym>.</p>
<p>T: 01398 323665 E: <email>info@exmoor-nationalpark.gov.uk</email> W: <web>www.exmoor-nationalpark.gov.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>7. Lake District</head>
<p>Gweithgaredd: Miles without Stiles</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: National Park Visitor Centre, Brockhole, Windermere, <acronym>LA23</acronym> 1<acronym>LJ</acronym></p>
<p>Am y gweithgaredd: Llwybr byr (1.5cm) o gwmpas tiroedd hardd Brockhole ar lannau Windermere. Mae hwn yn rhan o gyfres o 39 o lwybrau, yn addas i bobol gyfyngedig eu symud, trwy hyd a lled Lake District.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae'r ganolfan yn cynnig un o'r ychydig ardaloedd lle mae mynediad i'r cyhoedd i gefnfro ddwyreiniol drawiadol Windermere, a golygfeydd o Langdale Fells. Mae hefyd yn cynnwys y gerddi "rhestredig" hanesyddol a chae chwarae antur.</p>
<p>T: 015394 46601 (Centre Manager)</p>
<p>E: <email>nicky.wood@lakedistrict.gov.uk</email></p>
<p>Parcio hygyrch: Pymtheg lle parcio hygyrch.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Un bloc o dai bach yn ymyl y prif faes parcio, un bloc o dai bach y tu mewn i'r ganolfan groeso, un bloc o dai bach ar y tiroedd.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Addas i gadeiriau olwyn.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: Mynediad i'r llawr cyntaf mewn lifft. Mae gan y caffi lifft platfform.</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae "b?s" arbennig am ddim yn mynd o gwmpas y tiroedd ar gyfer ymwelwyr cyfyngedig eu symud. Mae'r 39 o deithiau cerdded Miles without Stiles i gyd mewn llyfryn rhwym, sydd ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth a siopau llyfrau yn y Parc Cenedlaethol. Mae pob taith gerdded yn cynnwys disgrifiad o'r daith, map a manylion cludiant.</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Lake District National Park Authority, Murley Moss, Oxenholme Road, Kendal, Cumbria, <acronym>LA9</acronym> 7<acronym>RL</acronym>.</p>
<p>T: 01539 724555 E: <email>hq@lakedistrict.gov.uk</email> W: <web>www.lakedistrict.gov.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>8. New Forest</head>
<p>Gweithgaredd: Llwybr Blackwater Arboretum 0.9cm</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Maes parcio Blackwater ar Rhinefield Ornamental Drive (<acronym>SU</acronym> 266 057)</p>
<p>Am y gweithgaredd: Taith gerdded gylch 0.9 cilomedr ydi Blackwater Arboretum o faes parcio Blackwater. Mae ynddo gasgliad hardd o goed o wledydd lawer ac mae'r llwybr synhwyraidd sy'n mynd drwyddo yn cynnwys nifer o fannau sy'n eich cymell chi i gyffwrdd, clywed oglau a gwrando ar swn rhai o'r coed. Mae'r llwybr yn wyneb gro gweddol lyfn a dim ond un rhediad graddol iawn a gorffwysfeydd aml. Mae llwybrau gwastad byr a seddi a byrddau picnic yn gwneud hwn yn lle braf i fynd mewn unrhyw dymor.</p>
<p>Nodweddion eraill: amh</p>
<p>T: 023 8028 3141 (y Commission Coedwigoedd)</p>
<p>E: <email>enquiries.new.forest@forestry.gsi.gov.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach ygyrch.</p>
<p>Parcio hygyrch: Mae gan faes parcio Blackwater le i hanner cant o geir a dau le wedi'u neilltuo i ymwelwyr anabl. Mae parcio ar lain gwastad o wellt cwta ar gael i ddeiliaid allwedd <acronym>RADAR</acronym> nesaf at fynedfa'r Arboretum. Mae yna atalfa dan glo y gellir ei hagor ag allwedd <acronym>RADAR</acronym>. Cysylltwch â'r Comisiwn Coedwigaeth ar 023 80283141 <acronym>am</acronym> wybodaeth.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Tai bach hygyrch i bobol anabl ar gael yn y prif faes parcio.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Gro cywasg ydi wyneb y llwybr a cherrig rhydd yn ymyl y maes parcio, fe allai fod yna gerrig hyd at 2 sentimedr uwch na'r wyneb. Mae man culaf y daith yn 1.1m ym mynedfa'r Arboretum. Dringfa fwya'r daith ydi 38m o 1:10 ar y ffordd i'r Arboretum o'r maes parcio. Does yna ddim grisiau, camfeydd na phontydd ar y daith yma. Mae seddi â chefnau aml ar hyd y ffordd.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: amh</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Dydi'r llwybr yma ddim wedi'i gyfeirbwyntio'n benodol fel llwybr wedi'i enwi ond mae yna arwyddion a chyfeirbwyntiau. Mae yna arwyddion i'r Arboretum o'r maes parcio.</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: New Forest National Park Authority, South Efford House, Milford Road, Everton, Lymington, <acronym>SO41</acronym> 0<acronym>JD</acronym>.</p>
<p>T: 01590 646600 E: <email>enquiries@newforestnpa.gov.uk</email> W: <web>www.newforestnpa.gov.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>9. Northumberland</head>
<p>Gweithgaredd: Rhoi tro am Once Brewed National Park Centre yn ymyl Mur Hadrian</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: National Park Centre Once Brewed, Once Brewed, B6318 Military Road, Bardon Mill, Northumberland, <acronym>NE47</acronym> 7<acronym>AN</acronym></p>
<p>Am y gweithgaredd: Mae Canolfan y Parc Cenedlaethol yma yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd Mur Hadrian, ac mae'r union le i chwilota ym mhen deheuol y Parc Cenedlaethol. Mae staff cyfeillgar, gwybodus yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac yn gallu helpu i gadw llety.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae'r cyfleusterau'n cynnwys tameidiau i aros pryd, arddangosfa fideo, dillad, mapiau, anrhegion ar werth yn ogystal â thai bach, parcio a man picnic hyfryd. Mae modd dal b?s Mur Hadrian, yr <acronym>AD122</acronym>, o'r fan yma hefyd, sy'n rhoi cyfle i chi roi tro am y prif safleoedd ar hyd y Mur. Mae rhai safleoedd yn hygyrch, gan gynnwys safle hamdden Walltown ac Amgueddfa Rufeinig Carvoran sydd yn yr un lle. Gewch chi fynd i'r b?s neu oddi arno fel y mynnwch chi – mae'r golygfeydd hardd yn gwneud y daith yn bleser. Mae Tywyswyr ar y bysus yn bywiogi'ch taith chi yn cyflwyno Bro Mur Hadrian ac yn tebol i ateb eich cwestiynau chi i gyd. Mae ganddyn nhw hyd yn oed ambell i beth diddorol i chi'i fyseddu! Mae bysus <acronym>AD122</acronym> i gyd yn llawr isel mynediad hawdd. Caiff deiliaid tocynnau i'r anabl deithio am ddim drwy'r dydd. Mae cwn ufudd yn cael mynd yn rhad ac am ddim.</p>
<p>T: 01434 344396</p>
<p>E: <email>tic.oncebrewed@nnpa.org.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch, ramp cadeiriau olwyn, print bras.</p>
<p>Parcio hygyrch: Nifer fawr o lefydd parcio ar gael.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Y tu mewn i'r Ganolfan mae yna ddau dy bach hygyrch, un i ddynion ac un i ferched.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Tir cerrig gwastad, hygyrch i gadeiriau olwyn.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: I gyd ar un llawr gwastad, a mynediad hawdd i gadeiriau olwyn.</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: amh</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Northumberland National Park Authority, Eastburn, South Park, Hexham, Northumberland, <acronym>NE46</acronym> 1<acronym>BS</acronym>.</p>
<p>T: 01434 605555 E: <email>enquiries@nnpa.org.uk</email> W: <web>www.northumberlandnationalpark.org.uk/visiting</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>10. North York Moors</head>
<p>Gweithgaredd: Llwybr mynediad gwastad trwy Forge Valley Woods</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: <acronym>SE</acronym> 985 871</p>
<p>Am y gweithgaredd: Mae llwybr styllod pren gweddol wastad yn mynd â chi ar daith 2.7cm (yno ac yn ôl) yn dilyn Afon Derwent trwy un o goetiroedd hyfrytaf North York Moors. Gwarchodfa Natur Genedlaethol ydi Forge Valley sy'n heigio o blanhigion ac anifeiliaid, o delorion y cnau yn y coed a siacrod cochion yn yr afon i graf gwyllt a cheirw swil yn llechu yn y prysgwydd.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae Forge Valley wedi'i enwi ar ôl y gefeiliau haearn o'r bedwaredd ganrif ar ddeg oedd yn defnyddio'n danwydd y siarcol a wneid yn y coedwigoedd hyn.</p>
<p>T: 01439 770657</p>
<p>E: <email>info@northyorkmoors-npa.gov.uk</email></p>
<p>Parcio hygyrch: Mae parcio ar gael ym man cychwyn y llwybr styllod ym Man Picnic Old Man's Mouth.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Mae'r tai bach mynediad <acronym>RADAR</acronym> nesaf yn Scarborough (10cm o Forge Valley).</p>
<p>Mynediad i'r tir: amh</p>
<p>Mynediad i adeiladau: amh</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol North York Moors wedi cynhyrchu arweiniad hawdd ei ddarllen i'r Parc Cenedlaethol i ymwelwyr llai symudol ac anabl. Ar ben wyth llwybr hygyrch ac awgrymiadau am ddiwrnodiau allan, mae'r arweiniad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am fynediad mewn atyniadau allweddol yn y cylch, hurio cadeiriau olwyn, tai bach hygyrch a gwybodaeth arall fuddiol. Mae'r arweiniad yn costio £6.50 ac mae ar gael ar lein yn <web>www.moors.uk.net/shop</web> Mae Scaling Dam Sailing Club yn rhan o fenter Sailability'r Royal Yachting Association a chanddi'n amcan rannu pleserau a boddhad hwylio â phlant ac oedolion ag anableddau. I gael gwybod mwy, cysylltwch â'r clwb ar 01287 643026 neu e-bostio <email>sail@scalingdam.org</email> <email>&lt;mailto:sail@scalingdam.org></email></p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: North York Moors National Park Authority, The Old Vicarage, Bondgate, Helmsley, York, <acronym>YO62</acronym> 5<acronym>BP</acronym>.</p>
<p>T: 01439 770657 E: <email>info@northyorkmoors-npa.gov.uk</email> W: <web>www.visitthemoors.co.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>11. Peak District</head>
<p>Gweithgaredd: Upper Derwent Valley Trail</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Man cychwyn – maes parcio Fairholmes, Derwent, Bamford, Hope Valley S33 0<acronym>AQ</acronym></p>
<p>Am y gweithgaredd: Cylchdro 18 milltir o gwmpas cronfeydd dwr Ladybower, Derwent a Howden. Gellir gwneud rhan o'r cylchdro neu'r cwbl (mae gofyn bod yn bur heini i wneud y llwybr cyfan). Mae canolfan hurio beics yn Fairholmes yn cynnig beics wedi'u haddasu at anableddau a sgwter symudedd y gellir ei gadw ymlaen llaw yn Fairholmes Cycle Hire. Mae'n rhan o 64 milltir o lwybrau hygyrch i bobol anabl a rhieni gyda choetsis cadair ar draws y Parc Cenedlaethol.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae'r man yn cynnig golygfeydd hardd o ddwr, coetir, tir ffarmio a rhostir, ac amrywiaeth o fywyd adar. Mae'r argloddiau ynghlwm â hanes amser rhyfel - roedd y Dambusters yn eu defnyddio nhw at ymarferion llywio.</p>
<p>T: 01433 651261 (Ray Wallage, Rheolwr Fairholmes Cycle Hire Centre)</p>
<p>E: <email>judy.merryfield@peakdistrict.gov.uk</email> (Rheolwr Recreation Strategy)</p>
<p>Symbolau hygyrchedd: ramp cadeiriau olwyn, tai bach hygyrch.</p>
<p>Parcio hygyrch: Chwe lle parcio i bobol anabl yn Fairholmes, a pharcio am ddim i ddeiliad Bathodynnau Glas. Mae'r maes parcio'n brysur dros y Sul.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Mae tai bach ar gael yn Fairholmes.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Mae gan y llwybr 18 milltir wyneb tonnog, caled bron yn ddi-dor – mae llawer o ddarnau'n fynediad hawdd ond mae crib y gogledd-ddwyrain braidd yn serth. Mae'r ffordd y tu draw i Fairholmes ar gau i draffig dros y Sul yn yr haf a dyddiau Sul drwy'r flwyddyn gron. Mae minibysys ar fynd ar yr adegau yma. Mae manylion mynediad llawn yn arweiniad "You're Welcome" yr Awdurdod – gweler <web>www.peakdistrict.gov.uk/access4all</web></p>
<p>Mynediad i adeiladau: amh</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae fideo o'r enw Access Peak ar gael yn dangos amryw weithgareddau y mae pobol a chanddyn nhw drafferthion symud yn gallu rhoi cynnig arnyn nhw ym Mharc Cenedlaethol Peak District. Mae cyflwynydd y fideo, John Harris, yn gyn-enillydd medal aur yn y Chwaraeon Paralympaidd. Mae'n ddefnyddiwr cadair olwyn ei hun ac yn rhoi mesurau realistig o faint o her ydi'r llwybrau, yn ogystal â chyfleu brwdfrydedd heintus fel dyn dwad i'r cylch. Mae i'w gweld yn <web>www.peakdistrict.gov.uk/access4all</web></p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Peak District National Park Authority, Aldern House, Baslow Road, Bakewell, Derbyshire, <acronym>DE45</acronym> 1<acronym>AE</acronym>.</p>
<p>T: 01629 816200 E: <email>customer.service@peakdistrict.gov.uk</email> W: <web>www.peakdistrict.gov.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>12. Yorkshire Dales</head>
<p>Gweithgaredd: The Green Trail, Bolton Abbey</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Bolton Abbey <acronym>SE</acronym> 077552</p>
<p>Am y gweithgaredd: Mae The Strid a Strid Wood yn eiddo a dan reolaeth Chatsworth Settlement Trustees ac maen nhw'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'r llwybr yn 1cm o hyd. Carreg gywasg ydi'r wyneb, o leiaf 200cm o led. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn fflat a chan rai darnau ddringfa hyd at 1:10. Mae'r llwybr yn cychwyn o Cavendish Pavilion (caffi), yn mynd i'r gogledd ac yn dod yn ôl yr un ffordd.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae cadeiriau olwyn a sgwteri trydan wedi'u cadw ymlaen llaw ar gael i ymwelwyr eu defnyddio rhwng misoedd Ebrill a Hydref.</p>
<p>T: 01969 652363 (Rachel Briggs, Awdurdod Parc Cenedlaethol Yorkshire Dales)</p>
<p>01756 718009 (Bolton Abbey)</p>
<p>E: <email>rachel.briggs@yorkshiredales.org.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch, disgrifiad llafar, Braille, print bras.</p>
<p>Parcio hygyrch: Mae yna gilfachau penodol i ddeiliaid bathodynnau glas ym maes parcio Sandholme nesaf at Cavendish Pavilion (caffi) lle mae'r llwybr yn cychwyn. Mae'r costau arferol ar waith.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Mae maes parcio Sandholme nesaf at Cavendish Pavilion (caffi) lle mae yna dai bach hygyrch i gadeiriau olwyn.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Carreg gywasg ydi'r wyneb, o leiaf 200cm o led. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn fflat a chan rai darnau ddringfa hyd at 1:10.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: Mynediad ramp i Cavendish Pavilion (caffi).</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae yna lyfryn o'r enw Access for All in Wharfedale.</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Yorkshire Dales National Park Authority, Yoredale, Bainbridge, Leyburn, North Yorkshire, <acronym>DL8</acronym> 3<acronym>EL</acronym>.</p>
<p>T: 0300 456 0030 E: <email>info@yorkshiredales.org.uk</email> W: <web>www.yorkshiredales.org.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>13. South Downs</head>
<p>Gweithgaredd: Llwybr mynediad hawdd</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Cychwyn gyferbyn â maes parcio Beachy Head (Cyf grid : <acronym>TV</acronym> 563 955).</p>
<p>Am y gweithgaredd: Llwybr cylch mynediad hawdd ydi The Peace Path yn cychwyn gyferbyn â phrif faes parcio Beachy Head ac yn arwain at olygfan ar Beachy Head. Mae mynediad hawdd yn golygu bod y llwybr yn addas i bobol â nam ar eu symud, cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a choetsis cadair.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae Beachy Head yn codi 152 medr (530 troedfedd) uwchlaw'r môr o dano a dyma'r clogwyn sialc uchaf ym Mhrydain. Mae yna olygfeydd eang gwych i'w gweld o ben y clogwyn.</p>
<p>T: 01243 558700</p>
<p>01323 737 273 (i gael gwybod am barcio a thai bach hygyrch yn Beachy Head Countryside Centre)</p>
<p>E: <email>comms@southdowns-aonb.gov.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach Hygyrch, ramp cadeiriau olwyn.</p>
<p>Parcio hygyrch: Un yn Beachy Head Countryside Centre.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Un yn Beachy Head Countryside Centre.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Mae'r llwybr yn un solet a gwastad ei wyneb heb ddim giatiau, camfeydd na grisiau.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: Mae gan Beachy Head Visitor Centre fynediad i gadeiriau olwyn.</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Mae yna un ar ddeg o lwybrau mynediad hawdd ar draws South Downs. I lawrlwytho hwn a'r llwybrau 'mynediad hawdd' eraill ar draws South Downs ewch i <web>www.southdownsonline.org</web>, clicio ar 'Visit South Downs' wedyn 'What to do' a 'Trails'.</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: South Downs National Park Authority, Rosemary's Parlour, North Street, Midhurst, West Sussex, <acronym>GU29</acronym> 9<acronym>SB</acronym>.</p>
<p>T: 01730 817285 E: <email>southdowns@defra.gsi.gov.uk</email> W: <web>www.southdowns.gov.uk</web></p>
</subsect2></subsect1>
<subsect1>
<head>Parciau Cenedlaethol yr Alban:</head>
<subsect2>
<head>14. Cairngorms</head>
<p>Gweithgaredd: Lochside Trail</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: Glenmore Forest Park, Cyf Grid <acronym>NH972</acronym> 098</p>
<p>Am y gweithgaredd: Llwybr hawdd 1.1 milltir wedi'i lunio i fod yn addas at bob gallu, yn dilyn ymyl Loch Morlich a golygfeydd trawiadol tuag at fynyddoedd Cairngorm.</p>
<p>Nodweddion eraill: Mae Forest Park Visitor Centre gerllaw, gan gynnwys siop fforest a chaffi. Ymhlith llwybrau eraill at bob gallu mae Allt Mor Interpretive Trail.</p>
<p>T: 01479 861220</p>
<p>E: <email>invernessross&amp;skye@forestry.gsi.gov.uk</email></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch.</p>
<p>Parcio hygyrch: Maes parcio Watersports.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Tai bach hygyrch yn ymyl y maes parcio.</p>
<p>Mynediad i'r tir: amh</p>
<p>Mynediad i adeiladau: amh</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: amh</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Cairngorms National Park Authority, 14 The Square, Grantown on Spey, <acronym>PH26</acronym> 3<acronym>HG</acronym>.</p>
<p>T: 01479 873535 E: <email>enquiries@cairngorms.co.uk</email> W: <web>www.cairngorms.co.uk</web></p>
</subsect2>
<subsect2>
<head>15. Loch Lomond and The Trossachs</head>
<p>Gweithgaredd: Tro am Loch Katrine</p>
<p>Lleoliad y gweithgaredd: <acronym>FK17</acronym> 8<acronym>HZ</acronym></p>
<p>Am y gweithgaredd: Trossachs Pier yn ymyl Loch Katrine, yng nghalon y Trossachs, ydi man cychwyn sawl gweithgaredd mewn amgylchedd hardd, yng nghanol coetiroedd naturiol a mynyddoedd. Mae'r ffordd ar hyd glan ogleddol Loch Katrine at ei gilydd yn fflat ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn; gewch chi hurio siandri golff (mae un hyd yn oed yn rhedeg ar ynni solar) wrth y Pier i fynd â chi ymhellach fyth; neu fynd ar fordaith ar y Stemar Sir Walter Scott, sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn cynnig sylwadaeth fyw.</p>
<p>Nodweddion eraill: Loch Katrine oedd lleoliad arwrgerdd Syr Walter Scott <i>, Lady of the Lake</i>, a gyhoeddwyd ddau gan mlynedd yn ôl. Roedd mynd mawr arni a thaniodd awch am roi tro am y Trossachs a'r Alban.</p>
<p>T: 01877 332000</p>
<p>E: <web>www.lochkatrine.com/contact_us.html</web></p>
<p>Symbolau hygyrchedd: tai bach hygyrch, ramp cadeiriau olwyn, nam ar y golwg, print bras, teleffon wedi'I chwyddleisio, lifft hygyrch.</p>
<p>Parcio hygyrch: Chwe lle parcio yn Trossachs Pier.</p>
<p>Tai bach hygyrch: Dau, un yn ymyl y maes parcio ac un yn y ty bwyta, yn agos at y lifft.</p>
<p>Mynediad i'r tir: Mae'r prif safle i gyd ar un lefel ac yn arwain at ffordd darmac sy'n wastad at ei gilydd ac ychydig o draffig motor yn ei defnyddio (dim ond trigolion lleol). Mae'r ffordd yn dilyn ochr ogleddol glan y loch ac mae modd mynd ati naill ai o Trossachs Pier neu o Stronachlachar ym mhen gorllewinol y loch y gellir mynd ato ar fordaith ar y Stemar Sir Walter Scott.</p>
<p>Mynediad i adeiladau: Mae'r ty bwyta'n hygyrch mewn lifft ac mae'r siop anrhegion ar yr un lefel â'r maes parcio.</p>
<p>Pwyntiau o Ddiddordeb: Yma y ganed Rob Roy MacGregor, a anfarwolwyd gan Scott yn un o'i lyfrau eraill, ac yma y treuliodd lawer o'i oes yn cuddio rhag yr awdurdodau mewn glynnoedd ac ogofâu gerllaw. Ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth Loch Katrine yn rhan ganolog rhwydwaith o gronfeydd dwr a llynnoedd yn cyflenwi dwr croyw i bobol Glasgow, rôl sy'n dal i fynd heddiw. Fe welwch chi lawer o nodweddion deniadol o weithfeydd dwr oes Victoria.</p>
<p>Oes yna: Bwt o fideo? Nac oes; Podlediad? Nac oes; Llwybr llafar? Nac oes.</p>
<p>Am ragor o fanylion ewch i: <web>www.nationalparks.gov.uk/accessforall</web></p>
<p>Manylion Cysylltu'r Parc Cenedlaethol: Loch Lomond &amp; The Trossachs National Park Headquarters, Carrochan, Carrochan Road, Balloch, G83 8<acronym>EG</acronym>.</p>
<p>T: 01389 722600 E: <email>info@lochlomond-trossachs.org</email> W: <web>www.lochlomond-trossachs.org</web></p>
<p>Cyhoeddir gan: Gymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, 126 Stryd Bute, Caerdydd <acronym>CF10</acronym> 5<acronym>LE</acronym></p>
<p>T: 029 2049 9966 E: <email>info@anpa.gov.uk</email> <web>www.nationalparks.gov.uk</web></p>

</subsect2>
</subsect1>
</section>
</simpdoca>
